yr Allwedd Amser

Mae Rhywbeth yn symud yn y Tywyllwch...

Pwy yw'r Hen Afr? Beth sydd yn ei lyfrau llychlyd? A beth sy'n sibrwd yn y cysgodion?

Ymunwch â Nefyn a Trefor ar antur ddirgel fydd yn eu denu i lefydd anhygoel a dyfnderoedd tywyll dinas od iawn.

Cymeriadau

Trefor

Meddwl ei fod yn gwybod pob dim - ond heb wybod llawer go iawn! Llawn o hwyl a hyder - efallai'n rhy hyderus weithiau. Hoff o ffilmiau arswyd ac anturiaethau yn y nos.

Nefyn

Rhannu tŷ gyda Trefor. Wastad yn gysglyd, ac yn hoff o ddarllen hen chwedlau. Ddim yn hoff o anturiaethau yn y nos o gwbl...ond rhywsut caiff ei dynnu i mewn i anturiaethau Trefor pob tro.

Carys

Ffrind i Nefyn a Trefor. Deallus ond byr ei hamynedd gyda'r pâr. Barod iawn i rhoi stŵr iddyn nhw, ac yn cael digon o gyfleoedd i wneud hynny.