Gari Pêl

GÔÔÔÔÔÔÔÔÔÔÔÔÔÔL!

Peldroediwr gorau'r byd - mae'n werth naw cant biliwn mil miliwn o bunnoedd, ac yn ennill dwywaith hynny yr wythnos.

Chwarae i dîm gorau'r byd- Afreal Madryn, sydd ar frig Los Ligos, cynghrair pêl droed enwog Patagonia.

Er y cyfoeth, y clod â'r lliw haul hyfryd, nid yw Gari wedi anghofio am ei ddechreuadau di-nôd yng Nghymru, a phob tro mae'n sgorio gôl, mae'n rhedeg yn syth i'r camera agosaf gan ganu 'Yma O Hyd' gan Dafydd Iwan, yn ei gyfanrwydd.