Arwr Hardda'r Bydysawd
Mae enw Capten Clonc yn codi ofn ar ladron, troseddwyr ac estronwyr drwg o bob cornel o'r bydysawd, ac mae Clonc yn mynd ati mewn steil. Mae'n trechu gelynion heddwch yn y dydd ac yn plycio ei aeliau gyda'r nos.
Caradog T. Clonc yw gofod-arwr enwoca'r bydysawd. Er ei fod bach yn dwp, mae'n llwyddo rhywsut i ennill y dydd bob tro, fel arfer gyda help teclunau a dyfeisiadau o'i Ganolfan Gudd.
Gwyddonydd Canolfan Gudd Clonc yw Dr. Dafydd Dŵ Dŵ. Mae'n genfigennus o boblogrwydd Clonc a cheisia ei orau glas i'w drechu a'i fradychu. Er gwaethaf ei holl ymdrechion drwg, dyw e heb stopio Clonc hyd yma - a does dim clem gyda Clonc!
Lloer-leidr mentrus sy'n gwibio o amgylch y bydysawd yn lladrata o blanedau cyfoethog. Wedi llwyddo i ddianc o Capten Clonc o'r blaen, ond bydd yn siŵr o ddangos ei hwyneb eto os bydd rhywbeth o werth i'w ddwyn.
Cawr-bot o'r blaned Robogrannog a hen elyn i Capten Clonc. Wedi ei rwtsho a'i daflu i grombil sgip ailgylchu ar gyrion y llwybr llaethog, ond mae ei feicrosglods yn dal i danio ac mae'n ysu i ddial.
Cadeirydd Undeb yr Estronwyr Drwg Iawn Iawn (U.E.D.I.I.), y corff trosedd proffesiynol mwyaf pwerus yn yr holl alaeth. Wedi ceisio darganfod lleoliad Canolfan Gudd Clonc ers blynyddoedd.
Twrch. Sy'n atomig.